Ysgol Feithrin Rhydaman

7fed o Ionawr – AR AGOR.

DIWEDDARIAD PWYSIG
Diolch am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth dros y dyddiau diwethaf. Rydym yn paratoi i’r ysgol fod ar AGOR i staff a disgyblion ar Ddydd Mercher Ionawr 7fed. Mae rhywfaint o slysh/dŵr yn dal i fodoli a disgwylir i’r tymheredd ostwng dros nos felly byddwn yn cynnal asesiad o’r safle am 7yb ac yn hysbysu am unrhyw newidiadau trwy Class Dojo. Serch hynny, rydym yn anelu at AGOR safle’r ysgol.
Diolch unwaith eto am eich cydweithrediad. ❤️

**DIWEDDARIAD PWYSIG**

Bydd yr ysgol yn parhau AR GAU i ddisgyblion a staff yfory ar ddydd Mawrth 6ed Ionawr yn dilyn asesiad o safle’r ysgol a materion gyda llwybrau cludiant i’r ysgol. Diolch am eich cefnogaeth yn y tywydd heriol yma. Diolch ❤️

***Pwysig ***

Rydym wedi bod yn monitro’r tywydd ac mae rhagolygon tywydd garw pellach ar gyfer Rhydaman. Am resymau iechyd a diogelwch – bydd yr ysgol AR GAU i staff a phlant yfory (5ed Ionawr) Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth i sicrhau diogelwch pawb.

“Gofalu am eich plentyn.  Rhannu yn eu dyfodol “

Mae’n rhoi pleser mawr i mi i gyflwyno i chi, trwy gyfrwng y Wefan hon, rhywfaint o wybodaeth am Ysgol Feithrin Rhydaman. Pwrpas y wybodaeth yw eich galluogi i gael dealltwriaeth o fywyd ac ethos yr ysgol.

Yma yn Ysgol Ysgol Feithrin, rydym yn cydnabod bod perthynas gynhyrchiol rhwng y cartref a’r ysgol yn hanfodol, er mwyn meithrin ymdeimlad o bartneriaeth rhwng rhieni ac athrawon ac i sicrhau yr amgylchedd dysgu gorau posibl ar gyfer eich plentyn.

Mae Ysgol Feithrin Rhydaman yn ysgol hapus, ac mae hyn yn deillio o’r cyfleoedd a gynigir i bawb. Mae cyfranogiad a llwyddiant mewn nifer o ymdrechion yn galluogi disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr, y gymuned a’r Awdurdod Addysg Lleol i fod yn haeddiannol falch o’u cysylltiad â’r ysgol. 

Nod yr ysgol yw i ddatblygu’r plentyn i fod yn ddysgwr annibynnol mewn amgylchedd sy’n hybu hunan ddisgyblaeth a hunan barch.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig lleoedd llawn amser ond o fis Ionawr 2026 bydd pob dechreuwr newydd yn rhan-amser. Bydd y lleoedd hyn yn 12.5 awr ac oriau’r sesiynau hyn fydd 9yb-11.30yb. Bydd clwb brecwast am ddim ar gael o 8yb y gall plant ei gael. Ni fyddwn yn cynnig darpariaeth cofleidiol ar hyn o bryd.

Rwy’n edrych ymlaen i’ch croesawu chi a’ch plentyn i Ysgol Feithrin Rhydaman.

 Yr eiddoch yn gywir,

Mrs Emma Parfitt  – Pennaeth

Gwybodaeth bwysig: proses ymgynghori

Cynnig i ailgyflunio darpariaeth Ysgol Feithrin Rhydaman

Http://www.carmarthenshire.gov.wales/consultations