Croeso i Wefan Ysgol Feithrin Rhydaman
“Gofalu am eich plentyn. Rhannu yn eu dyfodol “
Mae’n rhoi pleser mawr i mi i gyflwyno i chi, trwy gyfrwng y Wefan hon, rhywfaint o wybodaeth am Ysgol Feithrin Rhydaman. Pwrpas y wybodaeth yw eich galluogi i gael dealltwriaeth o fywyd ac ethos yr ysgol.
Yma yn Ysgol Ysgol Feithrin, rydym yn cydnabod bod perthynas gynhyrchiol rhwng y cartref a’r ysgol yn hanfodol, er mwyn meithrin ymdeimlad o bartneriaeth rhwng rhieni ac athrawon ac i sicrhau yr amgylchedd dysgu gorau posibl ar gyfer eich plentyn.
Mae Ysgol Feithrin Rhydaman yn ysgol hapus, ac mae hyn yn deillio o’r cyfleoedd a gynigir i bawb. Mae cyfranogiad a llwyddiant mewn nifer o ymdrechion yn galluogi disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr, y gymuned a’r Awdurdod Addysg Lleol i fod yn haeddiannol falch o’u cysylltiad â’r ysgol.
Nod yr ysgol yw i ddatblygu’r plentyn i fod yn ddysgwr annibynnol mewn amgylchedd sy’n hybu hunan ddisgyblaeth a hunan barch.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig lleoedd llawn amser ond o Ionawr 2026 bydd pob dechreuwr newydd yn rhan amser.
O fis Ionawr 2026 ymlaen, byddwn yn cynnig lleoedd rhan-amser o 12.5 awr. Oriau’r sesiynau hyn fydd 9-11.30yb. Bydd clwb brecwast am ddim ar gael o 8yb y gall plant ei gael. Nid oes gennym wasanaeth cofleidiol ar hyn o bryd ar gyfer yr oriau sy’n weddill ond rydym yn archwilio hyn ar hyn o bryd a byddwn yn diweddaru ein gwefan gydag unrhyw fanylion.
Rwy’n edrych ymlaen i’ch croesawu chi a’ch plentyn i Ysgol Feithrin Rhydaman.
Yr eiddoch yn gywir,
Mrs Emma Parfitt – Pennaeth