Mae dod yn Ysgol Masnach Deg yn golygu ymuno â mudiad byd-eang – mudiad lle mae pobl ifanc yn dysgu bod ganddyn nhw’r pŵer, beth bynnag fo’u hoedran, i wneud gwahaniaeth yn y byd.
Mae’n cynnig cyfle gwych i edrych ar faterion byd-eang fel o ble mae ein bwyd yn dod a sut rydyn ni’n gysylltiedig â phobl ledled y byd. Gall myfyrwyr hefyd ddysgu ystod o sgiliau, o waith tîm a chydweithrediad i ysgrifennu perswadiol i redeg stondin neu siop fwyd.
Gweithio tuag at
Fair Aware – FairAware yw’r Wobr Ysgolion Masnach Deg gyntaf ac mae’n ymwneud â darganfod ble mae’ch ysgol o ran deall Masnach Deg a defnyddio cynhyrchion Masnach Deg.
Fair Actif – Ar ôl dysgu am Masnach Deg ar gyfer eich gwobr gyntaf, gallwch symud ymlaen i FairActive a dechrau gweithredu ar gyfer Masnach Deg!
Fair Achiever – Ar yr adeg hon mae’r ysgol wedi ymgorffori Masnach Deg yn llawn yn eu bywyd bob dydd ac yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg yn eu cymuned leol.