Mae’r ‘Ysgol Iach’ yn un sy’n cymryd cyfrifoldeb dros gynnal ac hyrwyddo iechyd pawb sy’n ‘dysgu, gweithio, chwarae a byw’ ynddo nid yn unig drwy addysgu disgyblion yn ffurfiol am sut i fyw bywydau iach ond drwy alluogi disgyblion a staff i gymryd rheoli agweddau ar amgylchedd yr ysgol sy’n dylanwadu ar eu hiechyd.
Mae’n hyrwyddo, yn diogelu ac yn ymgorffori iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned drwy weithredu cadarnhaol.
Gellir cyflawni hyn drwy bolisi, cynllunio strategol a datblygiad staff am ei chwricwlwm, ethos, amgylchedd ffisegol a chysylltiadau cymunedol.
Rydym ni fel ysgol wedi ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol (NQA) ar gyfer ysgolion iach
Rydym yn edrych ar 7 ardal-
- Hylendid
- Bwyd a ffitrwydd
- Diogelwch
- Sylweddau
- Datblygiad Personol a Chydberthynas
- Amgylchedd
- Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol